Datgloi: Straeon COVID o Gymru

Datgloi: Straeon COVID o Gymru

Y cyflwynydd Dot Davies sy’n cynnal cyfres o bodlediadau yn sgwrsio gydag ystod o bobl nodedig ledled Cymru am eu profiadau yn ystod y pandemig. O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol i’r Prif Weinidog ei hunan, mae pob pennod yn rhoi golwg y tu ôl i’r llen i wrandawyr o sut mae COVID-19 wedi effeithio ar bobl o bob cefndir ar draws y wlad. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…

Episodes

April 21, 2022 36 mins
Mae Meinir Jones, Meddyg Teulu ac Arweinydd Gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Liza Thomas-Emrus, Meddyg Teulu ac Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Gwella Llesiant Bwrdd Iechyd Cwm Taf, yn ddwy gydweithwraig a chwaraeodd ran hollbwysig yn y gwaith o greu ysbytai maes yn ystod y pandemig – wrth iddyn nhw helpu i ddarparu gofal hanfodol i’r rhai mewn angen a thorri rhwystrau traddodiadol byrddau iechyd mewn cyfnod digynsail...
Mark as Played
Mae gwestai heddiw yn un y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â hi. I lawer ohonon ni, Dr Eleri Davies MBE oedd y brif ffynhonnell ar gyfer diweddariadau COVID Llywodraeth Cymru yn ystod llawer o’r pandemig.

Yn y bennod yma, cafodd Dot sgwrs ddwys gyda Dr Eleri am ei siwrne i’r byd meddygaeth, ei rolau amrywiol a oedd yn ganolog i ymateb COVID Cymru, a sut roedd yn teimlo pan gafodd ei chydnabod gydag MBE am ei gwaith yn ystod y pande...
Mark as Played
Mae Mirain Iwerydd yn seren newydd yng Nghymru. Yn 19 oed, hi yw cyflwynydd rhaglen y Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2 ochr yn ochr â gwneud ei gradd prifysgol.

Yn y bennod yma, bu Dot yn sgwrsio gyda Mirain i ddysgu beth yw ei phrofiad hi fel person ifanc yn byd mewn pandemig byd-eang, ac i glywed sut arweiniodd ei phrosiect personol unigryw yn ystod y cyfnod clo at ei gyrfa newydd yn y cyfryngau.

Felly ble bynnag ydych chi a be...
Mark as Played
Digrifwr poblogaidd o Dreorci yw Ellis Lloyd Jones, sydd wedi cael miliynau o wylwyr ar ei sgetsys comedi ar TikTok, ac wedi ymddangos ar gyfres BBC Tri ‘Young, Welsh and Bossin’ it.’

Yn y bennod yma, bu Dot ac Ellis yn trafod y stori y tu ôl i’w lwyddiant aruthrol ar TikTok, dod i arfer â byw yn llygad y cyhoedd, ei waith diweddar fel llysgennad ar ymgyrch Diogelu Cymru, a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Felly ble bynnag ydych chi...
Mark as Played
Croeso i bodlediad newydd sbon Diogelu Cymru, ‘Datgloi: Straeon COVID o Gymru.’ O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol, yn y gyfres yma bydd y cyflwynydd teledu a radio Dot Davies yn clywed gan amrywiaeth o bobl nodedig ledled Cymru wrth i ni nodi dwy flynedd ers y cyfnod clo cyntaf a myfyrio ar eu profiadau o’r pandemig.

Mae gwestai heddiw yn un arbennig. Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn gy...
Mark as Played

Popular Podcasts

    If you've ever wanted to know about champagne, satanism, the Stonewall Uprising, chaos theory, LSD, El Nino, true crime and Rosa Parks, then look no further. Josh and Chuck have you covered.

    Las Culturistas with Matt Rogers and Bowen Yang

    Ding dong! Join your culture consultants, Matt Rogers and Bowen Yang, on an unforgettable journey into the beating heart of CULTURE. Alongside sizzling special guests, they GET INTO the hottest pop-culture moments of the day and the formative cultural experiences that turned them into Culturistas. Produced by the Big Money Players Network and iHeartRadio.

    Dateline NBC

    Current and classic episodes, featuring compelling true-crime mysteries, powerful documentaries and in-depth investigations. Follow now to get the latest episodes of Dateline NBC completely free, or subscribe to Dateline Premium for ad-free listening and exclusive bonus content: DatelinePremium.com

    24/7 News: The Latest

    Today’s Latest News In 4 Minutes. Updated Hourly.

    The Joe Rogan Experience

    The official podcast of comedian Joe Rogan.

Advertise With Us
Music, radio and podcasts, all free. Listen online or download the iHeart App.

Connect

© 2025 iHeartMedia, Inc.