Y Coridor Ansicrwydd

Y Coridor Ansicrwydd

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.

Episodes

August 20, 2025 57 mins

Mae Dylan Griffiths a Malcolm Allen yn cael cwmni Iwan Roberts. Mae yna atgofion am ganu gyda Elton John, ac wedi’r dechrau da mae o wedi ei gael gyda Chaerdydd y tymor yma fydd clybiau yn cadw golwg ar Rubin Colwill?

Mark as Played

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu perfformiadau a chanlyniadau cynnar pedwar prif glwb Cymru, a'r safleoedd sydd angen eu cryfhau yn y garfan.

Ac yn ddigon lwcus i Mal, ddoth sefyllfa Alexander Isak yn Newcastle United i fyny yn y sgwrs... cyfle perffaith felly i ddangos bod o dal yn cymysgu yn yr un cylchoedd â rhai o'r mawrion!

Mark as Played

Cyn hir, mi fydd Wrecsam yn chwarae yn ail haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 43 o flynyddoedd. Lle gwell, felly, i drafod gobeithion a disgwyliadau'r clwb nag ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam? Ac er gwaetha'r gwynt a'r glaw, mae Dylan, Mal ac Ows yn cael cwmni tri aelod o'r clwb. Yn gyntaf, sgwrs efo Huw Birkhead, sydd yn dysgu Cymraeg i chwaraewyr, staff a chefnogwyr y clwb. Ac yna Cledwyn Ashford, y sgowt a'r gwir...

Mark as Played
July 29, 2025 56 mins

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pwyso a mesur sut dymor fydd hi i Gaerdydd a Chasnewydd o dan eu rheolwyr newydd. A pham bod cefnogwyr Abertawe yn dechrau troi ar gefnogwyr Wrecsam..?

Mark as Played
July 15, 2025 47 mins

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod sut all Cymru adeiladu ar ei ymddangosiad hanesyddol cyntaf yn rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Colli tair, chwarae tair ydi'r ffeithiau moel. Ond y gobaith yw fydd effaith cyrraedd Y Swistir i'w deimlo am flynyddoedd i ddod.

A pham yn y byd bod y rapiwr Snoop Dogg yn hyrwyddo crys newydd Abertawe..?!

Mark as Played
July 10, 2025 38 mins

Fel y disgwyl, roedd Ffrainc yn rhy gryf i Gymru ond roedd digon o reswm i ddathlu. Roedd wyneb Jess Fishlock, ac ymateb yr holl garfan, yn adrodd cyfrolau wrth iddi ddathlu sgorio gôl gyntaf Cymru yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop... a chreu record newydd yn y broses fel y sgoriwr hynaf yn hanes yn gystadleuaeth.

Catrin Heledd sy'n ymuno efo Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi noson hanesyddol ...

Mark as Played

Oedd yr emosiwn yn ormod? Oedd tactegau Rhian Wilkinson yn anghywir? Oes rhaid derbyn bod Cymru lefel yn is na goreuon Ewrop? Dyna rai o'r cwestiynau i'w hateb wrth i gyn flaenwr Cymru Gwennan Harries ymuno gyda Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddadansoddi'r golled o 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Ewro 2025.

Ond y cwestiwn pwysicaf oll - pam bod OTJ wedi dychryn am ei fywyd mewn sawna..?!

Mark as Played
July 3, 2025 44 mins

Mae Kath Morgan wedi cyrraedd Y Swistir - ac mae'r emosiynau'n hedfan. Bron i 20 mlynedd ers iddi roi'r gorau i chwarae dros ei gwlad, prin fod Kath yn gallu coelio bod Cymru yn cystadlu ymysg prif dimau Ewrop am y tro cyntaf. Fydd hyn yn gam rhy bell i'r merched? Fydd Sophie Ingle yn cychwyn y gêm gyntaf? Pa mor bwysig fydd profiad Rhian Wilkinson yn arwain y garfan? Mae 'na lot i drafod efo Dyl, Ows a Mal!

Mark as Played
June 12, 2025 43 mins

Rhyfedd sut mae colled gallu teimlo mor dda a buddugoliaeth mor siomedig. Bu bron i ni weld un o ganlyniadau gorau yn hanes Cymru yng Ngwlad Belg wrth frwydro nôl o dair gôl i lawr, ond gadael yn waglaw bu'n rhaid gwneud. Tridiau yng nghynt, digon fflat oedd yr ymateb ar ôl curo Liechtenstein o dair gôl i ddim. O ganlyniad, mae Cymru wedi disgyn i ail yn y grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

Pa wersi ddysgodd Craig Bellam...

Mark as Played

Doedd hi ddim y ffarwel delfrydol i garfan Rhian Wilkinson wrth chwarae am y tro olaf cyn Ewro 2025 yn Y Swistir. Roedd y gêm yn Abertawe wedi ei cholli cyn hanner amser wrth i'r Eidal sgorio pedair gôl yng ngem olaf yr ymgyrch yng Nghrŵp A Cynghrair Y Cenhedloedd. Mi fydd Cymru felly yn mynd i'w ymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd heb ennill yn eu chwe gêm ddiwethaf.

Pa wersi fydd Wilkinson wedi e...

Mark as Played
May 29, 2025 47 mins

Ronan Kpakio oedd yr enw annisgwyl i'w gynnwys gan Craig Bellamy yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Liechtenstein a Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Chwe ymddangosiad yn unig sydd gan yr amddiffynnwr dros Gaerdydd, ond Bellamy yn proffwydo gyrfa ddisglair i'r chwaraewr 19 mlwydd oed.

Cyn y gemau hynny, bydd ymgyrch tîm Rhian Wilkinson yn dod i ben yng Nghynghrair y Cenhedloedd - dau gyfle olaf i geisio ...

Mark as Played
May 8, 2025 51 mins

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones and Malcolm Allen sy'n trafod y da, y drwg a'r digri o'r tymor a fu.

Mark as Played
May 2, 2025 53 mins

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n i chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe Joe Allen wrth iddo gyhoeddi fod ei yrfa hynod lwyddiannus ar fin dod i ben.

Mae'r hogia' hefyd yn trafod y gwaith fydd gan reolwr Abertawe Alan Sheehan i ddenu chwaraewyr newydd i'r clwb dros yr haf, a'r dasg anoddach fyth sydd gan berchennog Caerdydd Vincent Tan i fabwysiadu strwythur gwell oddi car y cae er mwyn ceisio esgyn yn syth no...

Mark as Played
April 29, 2025 44 mins

Wrth ddathlu trydydd dyrchafiad yn olynol ar y Cae Ras nos Sadwrn, dim ond un cwestiwn oedd ar wefusau cefnogwyr Wrecsam... 'ble mae Waynne Phillips?!' Yn wyliwr cyson ers blynyddoedd lu bellach - unai fel sylwebydd neu gefnogwr - mae Waynne wedi dilyn y daith o'r Gynghrair Genedlaethol yn agosach na neb. Ond doedd o ddim yno i ddathlu gyda'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y rheolwr Phil Parkinson a'i chwaraewyr a'r mi...

Mark as Played

Gyda thair gêm yn weddill o'r tymor, mae Caerdydd wedi penderfynu ymateb i'r argyfwng amlwg drwy ddiswyddo'r rheolwr Omer Riza a gobeithio bydd yr arwr lleol Aaron Ramsey yn gallu ysbrydoli atgyfodiad. Ond wrth i'r timau eraill ger gwaelod y tabl barhau i ennill pwyntiau gwerthfawr, mae Mal ac Ows yn pryderu bod hi'n rhyw hwyr i newid trywydd tymor hynod siomedig.

Parhau i ennill mae Abertawe, serch hynny, ond tydi Ows dal ddim yn c...

Mark as Played
April 17, 2025 45 mins

Dyl, Malcs ac OTJ sy'n trafod taith Owain i Como a buddsoddiad Luka Modric yn Abertawe.

Mark as Played

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiadau a chanlyniadau merched Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r cynnydd o dan y rheolwr Rhian Wilkinson.

Er gwaethaf dwy gêm gyfartal oddi cartref, mae Caerdydd yn parhau yn y safleoedd disgyn yn y Bencampwriaeth. Ydi'r cefnogwyr wedi colli gobaith yn barod?

Mae'r momentwm tuag at ddyrchafiad yn parhau yn Wrecsam - mae eu dynged yn eu dwylo eu hun ar ôl i Wyc...

Mark as Played
April 3, 2025 55 mins

Mwyaf sydyn, mae'r tymor wedi cyrraedd y pedwar wythnos olaf. Ac mi fydd hi'n ddiweddglo llawn tensiwn i Gaerdydd a Wrecsam, wrth iddyn nhw frwydro am bwyntiau gwerthfawr ar resymau gwahanol iawn.

Mae Wrecsam yn parhau tri phwynt yn glir o Wycombe yn y ras am yr ail safle yn Adran Un, ond wedi chwarae un gêm yn fwy. Be sydd orau adeg yma o'r tymor felly? Pwyntiau ar y bwrdd ta tynged yn nwylo eich hun? Wrth reswm, mae yna wahaniaeth...

Mark as Played

Wel am ddiweddglo yn Skopje! Camgymeriad hollol anarferol Joe Allen yn rhoi gôl ar blât i Ogledd Macedonia, cyn i David Brooks fanteisio ar ddau gamsyniad amddiffynnol gan y tîm cartref i achub gêm gyfartal oedd perfformiad Cymru yn ei haeddu. Hyn i gyd wedi'r cloc basio 90 munud!

Felly, mae record ddiguro Craig Bellamy fel rheolwr yn parhau, a Chymru yn gyfartal ar frig y grŵp gyda Gogledd Macedonia wedi dwy gêm. Digon i'r 'ogia dr...

Mark as Played
March 19, 2025 49 mins

Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n 'dathlu' buddugoliaeth Newcastle United yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan y Gynghrair ac yn ysu i weld Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

Mark as Played

Popular Podcasts

    If you've ever wanted to know about champagne, satanism, the Stonewall Uprising, chaos theory, LSD, El Nino, true crime and Rosa Parks, then look no further. Josh and Chuck have you covered.

    Dateline NBC

    Current and classic episodes, featuring compelling true-crime mysteries, powerful documentaries and in-depth investigations. Follow now to get the latest episodes of Dateline NBC completely free, or subscribe to Dateline Premium for ad-free listening and exclusive bonus content: DatelinePremium.com

    New Heights with Jason & Travis Kelce

    Football’s funniest family duo — Jason Kelce of the Philadelphia Eagles and Travis Kelce of the Kansas City Chiefs — team up to provide next-level access to life in the league as it unfolds. The two brothers and Super Bowl champions drop weekly insights about the weekly slate of games and share their INSIDE perspectives on trending NFL news and sports headlines. They also endlessly rag on each other as brothers do, chat the latest in pop culture and welcome some very popular and well-known friends to chat with them. Check out new episodes every Wednesday. Follow New Heights on the Wondery App, YouTube or wherever you get your podcasts. You can listen to new episodes early and ad-free, and get exclusive content on Wondery+. Join Wondery+ in the Wondery App, Apple Podcasts or Spotify. And join our new membership for a unique fan experience by going to the New Heights YouTube channel now!

    The Clay Travis and Buck Sexton Show

    The Clay Travis and Buck Sexton Show. Clay Travis and Buck Sexton tackle the biggest stories in news, politics and current events with intelligence and humor. From the border crisis, to the madness of cancel culture and far-left missteps, Clay and Buck guide listeners through the latest headlines and hot topics with fun and entertaining conversations and opinions.

    The Bobby Bones Show

    Listen to 'The Bobby Bones Show' by downloading the daily full replay.

Advertise With Us
Music, radio and podcasts, all free. Listen online or download the iHeart App.

Connect

© 2025 iHeartMedia, Inc.