Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Hans Obma sydd yn actor ac yn ysgrifennwr.
Mae Hans yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd yr Unol Daleithiau a bellach yn byw yn Los Angeles.
Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Treuliodd ha...
Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a BBC Sounds yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
Geirfa ar gyfer y bennod
Clip 1
Dyfarnwr: Referee Dwys: Intense Anghytuno: Disagreeing Ddim yn ei anterth: Not at his peak Doniol tu hwnt: Extremely amusing Dychwelyd: To return Yn selog; Regularly Ardde...
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Mae'r bennod yma yn bennod arbennig ac wedi ei recordio yng Ngŵyl Tafwyl yn ystod mis Mehefin eleni gydag aelodau'r band Fleur de Lys.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a BBC Sounds yn ystod mis Mehefin yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
Geirfa ar gyfer y bennod
CLIP 1 Gemau’r Gymanwlad: Commonwealth Games O ‘mynadd…: Oh, can’t be bothered Fatha ffordd arall o ddweud Fel
CLIP 2 Gwlad Groeg: Greece Y Llyfrgell Genedlaethol: The Nat...
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gydag Israel Lai, sydd wedi ei eni a'i fagu yn Hong Kong ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Cerddor a chyfansoddwr ydy Israel sydd yn byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
CLIP 1 Arbenigol: Specialist
Serennu: To star
Sefydlodd: Established
Cynrychioli: To represent
Camp: A sport
CLIP 2
Llywydd: Presiding Officer
Gweinidog Cefn Gwlad: Minister for Rural Affairs
Cythryblus: Troublesome ...
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim...
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ebrill yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
Geirfa ar gyfer y bennod
CLIP 1 Cynyddu: To increase Sionc: Lively Drygionus: Naughty Ambyti nhw ffordd arall o ddweud Amdanyn nhw Efeillia...
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Ben McDonald, ei ffrind ers dyddiau ysgol, ac mae'r ddau erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mawrth yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
GEIRFA
CLIP 1 Cadair olwyn: Wheelchair Fatha - ffordd arall o ddweud - Fel Profiad: Experience Gwerthfawrogi bywyd: To appreciate life Rhwystredig: Frustrating Goleuni: Light Coelio - ffordd arall o ddweu...
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda’i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yno gyda’i wraig Sian a’r plant. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i’r gymuned leol.
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Chwefror yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
CLIP 1 Sawna: Sauna Buddion: Benefits Diffyg cwsg: Lack of sleep Arbrofi: To experiment Plymbwll: Plunge pool Datblygu: To develop Corddi: Churning Chwysu: Sweating Elwa: To benefit Pwysau gwaed:...
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar-Macfarlane.
Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar-Macfarlane. Yn wreiddiol o dref Stirling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennar Bapur.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1 Cyfres: Series Cychwynnol: Initial Pennod: Episode Andros o gyffrous: Very exciting Datgelu: To reveal Llywio: Presenting Cyngor: Advice Gweithgareddau: Activities Heb os nac oni bai: Without doubt
Clip...
Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a’i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi’n fam-gu ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda’r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl a...
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
CLIP 1
Beiriniaid: Judges
Ias: A shiver
Chwerw-felys: Bitter sweet
Diniwed: Innocent
Cynhyrchwyr: Producers
Clyweliadau: Auditions
Hyfforddwyr: Coaches
Ewch amdani: Go for it
Sylwadau: Comments
Y Bydysawd: ...
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.
Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn...
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ...
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
UConn basketball star Azzi Fudd brings her championship swag to iHeart Women’s Sports with Fudd Around and Find Out, a weekly podcast that takes fans along for the ride as Azzi spends her final year of college trying to reclaim the National Championship and prepare to be a first round WNBA draft pick. Ever wonder what it’s like to be a world-class athlete in the public spotlight while still managing schoolwork, friendships and family time? It’s time to Fudd Around and Find Out!
Does hearing about a true crime case always leave you scouring the internet for the truth behind the story? Dive into your next mystery with Crime Junkie. Every Monday, join your host Ashley Flowers as she unravels all the details of infamous and underreported true crime cases with her best friend Brit Prawat. From cold cases to missing persons and heroes in our community who seek justice, Crime Junkie is your destination for theories and stories you won’t hear anywhere else. Whether you're a seasoned true crime enthusiast or new to the genre, you'll find yourself on the edge of your seat awaiting a new episode every Monday. If you can never get enough true crime... Congratulations, you’ve found your people. Follow to join a community of Crime Junkies! Crime Junkie is presented by audiochuck Media Company.
The World's Most Dangerous Morning Show, The Breakfast Club, With DJ Envy, Jess Hilarious, And Charlamagne Tha God!
The Clay Travis and Buck Sexton Show. Clay Travis and Buck Sexton tackle the biggest stories in news, politics and current events with intelligence and humor. From the border crisis, to the madness of cancel culture and far-left missteps, Clay and Buck guide listeners through the latest headlines and hot topics with fun and entertaining conversations and opinions.
The latest news in 4 minutes updated every hour, every day.