Craffu360

Craffu360

Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru. Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau. Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.

Episodes

May 1, 2026 79 mins
Gydag wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad, mae ymgeiswyr y pleidiau yn ymuno a Craffu360 ar gyfer dadl. 

Efallai nad yw’n syndod fod y sgwrs genedlaethol cyn etholiad yn dueddol o ganolbwyntio ar y materion craidd ein hoes, megis y Gwasanaeth Iechyd ac Addysg.

Ond heddiw, rydym yn pori drwy gynlluniau’r pleidiau ar gyfer yr iaith Gymraeg, y diwylliannau a’r celfyddydau.

Mi fyddwn yn trafod gwariant ar y diwydiannau creadigol, huna...
Listen
Watch
Mark as Played
Yn ymuno Rhys ac Efan yr wythnos hon mae Owain Williams o Lafur Cymru. 

Dan sylw mae ymgyrch anodd hyd yn hyn i Eluned Morgan a’r Blaid Lafur, ynghyd â chynlluniau’r pleidiau ar gyfer tyfu’r economi a symud tuag at Gymru fwy llewyrchus ac iach.

Trafodwn hefyd y Ddadl Fawr ar S4C, a’r hyn a ddysgwyd gan yr arweinwyr a’r ymgeiswyr ar y llwyfan.

Bu hefyd yn wythnos brysur i’r polau piniwn, gyda phedwar cyhoeddiad newydd yn awgrymu patrwm...
Listen
Watch
Mark as Played
Er rydym hanner ffordd drwy’r ymgyrch swyddogol, nid yw hi o reidrwydd yn teimlo fod yr ymgyrch wedi sbarduno i mewn i fywyd. 

Gyda llawer o ddiddordeb y cyfryngau Prydeinig yn canolbwyntio ar yr ymgyrch yn yr Alban, mae ein gohebwyr, Efan Owen a Rhys Owen, yn trafod lle mae’r pleidiau arni ar hyn o bryd, ac os mae’r deil wedi newid o gwbl.  

Hefyd mae’r mater o faniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn debyg i nifer o’r pleidiau, nid...
Listen
Watch
Mark as Played
Mewn cyfweliad hirhoedlog gyda phodlediad Craffu360, mae ymgeisydd Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, Niamh Salkeld, wedi bod yn datgan beth yw eu cynllun i bobol ifanc. 

Mae ymddiriedaeth pobol ifanc mewn gwleidyddiaeth wedi bod yn gostwng yn ganlynol ar hyd y degawdau diwethaf.

Hefyd o dan sylw, mae ‘effaith Caerffili’, a hynny wedi buddugoliaeth Lindsay Whittle yn yr is-etholiad yno.
Listen
Watch
Mark as Played
Ar Gair y Gohebwyr heddiw mae gan Efan Owen a Rhys Owen nifer o bynciau gwahanol i’w trafod. 

Yn gyntaf mae maniffesto Plaid Cymru, sy’n addo llawer ar yr economi, y Gwasanaeth Iechyd, a gofal plant.

Rydym yn edrych yn fanwl ar bolisi'r Blaid i gael 50% o ddisgyblion Cymru mewn addysg gyfrwng Gymraeg erbyn 2050; ydi hyn yn bosib?

Hefyd mae’r mater o’r Blaid Werdd a’i faniffesto ei hun sydd wedi cael ei ddisgrifio yn fwy fel rhestr sio...
Listen
Watch
Mark as Played
Gohebwyr Golwg360, Efan Owen ac Rhys Owen, sydd yn eistedd lawr i drafod wythnos olaf y Chweched Senedd, ac yn cymryd golwg ar yr hyn ddigwyddodd yn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog.

Bydd y ddau hefyd yn trafod canllawiau arolwg barn YouGov ITV Cymru Wales, a beth all hyn olygu o ran yr ymgyrch sydd i ddod.
Listen
Watch
Mark as Played
Yn y bennod hon rydym yn gofyn pam mae ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru mor isel?

Mae astudiaeth ddiweddar yn dangos lefelau pryderus o ymgysylltu gyda gwleidyddiaeth a sut mae Cymru’n cael ei lywodraethu.

A’i dibyniaeth ar gyfryngau Prydeinig sydd tu ôl i hyn?

Mae ein gohebwyr, Efan Owen a Rhys Owen, yn trafod y canfyddiadau ymhellach gyda’r myfyriwr PhD sydd y tu ôl i’r astudiaeth yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd...
Listen
Watch
Mark as Played
Yn ymuno a Craffu360 yw Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds.

Yn pwysleisio ariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gofal cymdeithasol, rydym yn gofyn a’i dim ond grŵp gwthio yn hytrach na phlaid wleidyddol maen nhw yng Nghymru?

Hefyd mae’r mater o annibyniaeth, rhywbeth mae Jane Dodds yn rhybuddio bydd yn bosib mewn refferendwm erbyn 2034 os mae Plaid Cymru yn ennill y ddau etholiad nesaf.

Mae’r Democratiai...
Listen
Watch
Mark as Played
Yn ymuno ac Efan Owen a Rhys Owen ar Gair y Gohebwyr yr wythnos yma, mae aelod o Academi Newyddiaduraeth Golwg360, Ben Withers. 

O dan sylw mae lansiad maniffesto Reform, gyda’n Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen yn rhoi blas ar yr hyn oedd yn digwydd yng Nghasnewydd.

Hefyd mae’r mater o ddiffyg ffydd yn ein gwleidyddiaeth, beth mae arést o dri pherson sydd yn hanesyddol wedi bod yn rhan o Lafur o fod yn ysbiwyr i Tsiena yn gwneud i’’n g...
Listen
Watch
Mark as Played
Wedi lansiad maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, yn y bennod hon o Craffu360, mae ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yn eistedd lawr gyda’u Llefarydd ar yr economi ynni, ac amaeth, Sam Kurtz. 

O dan sylw mae penderfyniad ei ffrind James Evans i ymuno Reform, perthnasedd y blaid yng Nghymru, ac wrth gwrs mwy o fanylion ar addewidion eithaf radical y maniffesto.
Listen
Watch
Mark as Played
Yn y bennod hon o Craffu360, mae ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yn eistedd lawr gyda Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor i drafod y neges sy’n siapio’r ymgyrch - yn enwedig y ffocws ar Reform UK - a geiriau cryf Rhun ap Iorwerth am y dewis rhwng “cynnydd neu bydredd”. 

Oes perygl bod gormod o sylw ar Reform? A beth mae profiad etholiad 2024 a llywodraeth Keir Starmer wedi’i ddysgu i’r Blaid?

Rydy...
Listen
Watch
Mark as Played
Ar Gair y Gohebwyr heddiw, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn trafod wythnos brysur yn Senedd a thu hwnt. 

Dan sylw mae’r tensiynau cyfansoddiadol yn sgil y bleidlais ar roi pwerau i Weinidogion Cymru dros hawl i farw - a’r hyn mae hynny’n ei ddatgelu am y setliad datganoli presennol.

Hefyd, rydym yn edrych ar y mater bach o is-etholiad yn Gorton a Denton, a pha arwyddion sydd ynddo o’r hyn all ddod yng Nghymru.

Ac i gloi, bydd...
Listen
Watch
Mark as Played
Ar Gair y Gohebwyr heddiw, er bod y Senedd ar wyliau, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn eistedd lawr i drafod wythnos brysur ym myd gwleidyddiaeth. 

Ar yr agenda mae’r weledigaeth newydd gan Drafnidiaeth Cymru, Heddiw, Yfory, Gyda'n Gilydd - ond ai cefnogaeth go iawn ynteu ymdrech ymgyrchol gan Keir Starmer sydd y tu ôl iddi?

Byddwn hefyd yn trafod y posibilrwydd o gydweithio ar y chwith i atal Reform UK, ac a oes gobaith i B...
Listen
Watch
Mark as Played
Ar Gair y Gohebwyr heddiw, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn cael eu hymuno gan Joshua Romain o Academi Newyddiaduraeth Golwg360.

O dan sylw mae Keir Starmer yn goroesi bygythiad i’w Brif Weinidogaeth, a sut y gall newidiadau i’w dîm yn Rhif 10 arwain at newid yn y ffordd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwleidydda dros y misoedd nesaf.

Rydym hefyd yn trafod gyda Joshua sut mae’r frwydr am bleidleisiau pobl ifanc - yn e...
Listen
Watch
Mark as Played
Mae golwg360 yn lansio cyfres newydd wythnosol fel rhan o bodlediad Craffu360 i drafod straeon gwleidyddol mwyaf yr wythnos o Fae Caerdydd a San Steffan. 

Gohebwyr Golwg360, Efan Owen a Rhys Owen, sydd yn eistedd lawr i drafod y newyddion mai Dan Thomas yw Arweinydd Reform yng Nghymru.

O dan sylw mae arwyddocâd y penodiad o safbwynt ymbellhau o’u cyn arweinydd yng Nghymru, Nathan Gill, a be all hynny olygu o safbwynt polisïau.

Hefyd m...
Listen
Watch
Mark as Played
Yn ymuno a Rhys Owen mae Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Parry.  

Wedi cyfnod o flynyddoedd bregus i ffermwyr, a hynny ar lefel Gymreig gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac yntau ar y lefel Brydeinig, gyda newidiadau i dreth etifeddiaeth, mae Gareth Parry yn sôn am 2026 fel blwyddyn o obaith i ffermwyr.  

O dan sylw mae’r hyn sydd ei angen o fewn maniffestos y pleidiau i sicrhau dyfodol y diwydiant amaeth, a’r hyn sydd...
Listen
Watch
Mark as Played
Gyda phum mis i fynd nes etholiad y Senedd, dyma bennod arbennig Nadoligaidd o Craffu360. 

Yn ymuno a ni yw’r Cynghorydd Aled Thomas o’r Ceidwadwyr Cymreig, y Cynghorydd ac ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngwynedd Maldwyn Elwyn Vaughan, yr aelod o Lafur Cymru Owain Williams, ac fel sylwebydd o Senedd Explained Gwion Rhisiart.  

Gyda system etholiadol newydd, etholaethau enfawr, a chyfle gwirioneddol i blaid tu hwnt i Lafur Cymru i ennill y...
Listen
Watch
Mark as Played
Yn ymuno a ni y tro hwn yw’r newyddiadurwr Aled Eirug i drafod ei lyfr newydd, Dafydd Elis Thomas: Nation Builder. 

Mi fydden yn trafod yr hyn oedd yn siapio ‘Dafydd El’ fel un o wleidyddion unigryw ei oes, a thrafod yr angen am ei fath o wleidyddiaeth bragmatig mewn Senedd go wahanol o fis Mai nesaf ymlaen.

Mae Dafydd Elis Thomas: Nation Builder ar gael gan Wasg Prifysgol Cymru yma:https://www.uwp.co.uk/book/dafydd-elis-thomas-eirug...
Listen
Watch
Mark as Played
Yn ymuno a ni y tro hwn yw cyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. 

Fel rhywun fydd o bosib yn mynd lawr fel arweinydd mwyaf adnabyddus Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli, mi fydd ei ddylanwad yn parhau ymhell i’r dyfodol.

Hefyd, ei benderfyniad o i ddiwygio’r Senedd sy’n debygol o greu’r amodau ar gyfer yr etholiad mwyaf cyffroes erioed mis Mai nesaf.

Rydym yn trafod hyn a mwy o Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.
Listen
Watch
Mark as Played
Yn ymuno â ni ar Craffu360 y tro yma yw’r newyddiadurwr Maxine Hughes, sy’n byw yn Washington. 

Yn brif wyneb Newyddion S4C yn yr Unol Daleithiau, mae Maxine Hughes yn wyneb cyfarwydd i nifer fel rhywun sy’n adrodd straeon gwleidyddol a materion cyfoes o’r wlad honno.

Fyddwn yn trafod eithafiaeth, byw yn yr Unol Daleithiau, a’i ffrindiau mawr a perchnogion CPD Wrecsam, Rob McElhenney a Ryan Reynolds.
Listen
Watch
Mark as Played

Popular Podcasts

    If you've ever wanted to know about champagne, satanism, the Stonewall Uprising, chaos theory, LSD, El Nino, true crime and Rosa Parks, then look no further. Josh and Chuck have you covered.

    Dateline NBC

    Current and classic episodes, featuring compelling true-crime mysteries, powerful documentaries and in-depth investigations. Follow now to get the latest episodes of Dateline NBC completely free, or subscribe to Dateline Premium for ad-free listening and exclusive bonus content: DatelinePremium.com

    The Breakfast Club

    The World's Most Dangerous Morning Show, The Breakfast Club, With DJ Envy, Jess Hilarious, And Charlamagne Tha God!

    The Buck Sexton Show

    Buck Sexton breaks down the latest headlines with a fresh and honest perspective! He speaks truth to power, and cuts through the liberal nonsense coming from the mainstream media. Interact with Buck by emailing him at teambuck@iheartmedia.com

    iHeartRadio 24/7 News: The Latest

    The latest news in 4 minutes updated every hour, every day.

Advertise With Us
Music, radio and podcasts, all free. Listen online or download the iHeart App.

Connect

© 2026 iHeartMedia, Inc.

  • Help
  • Privacy Policy
  • Terms of Use
  • AdChoicesAd Choices