Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill
Ydi Caerdydd wedi gwella o dan y rheolwr Erol Bulut y tymor yma? Mae 'na wahaniaeth barn mawr rhwng Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac ydi Mo Salah wedi pardduo ei enw da ar ôl ffraeo'n gyhoeddus efo Jurgen Klopp?
Y dyfarnwr Iwan Arwel sy'n egluro wrth Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sut yn union fydd "VAR Lite" yn cael ei ddefnyddio yn y Cymru Premier. Yn amlwg, mae Mal wrth ei fodd bod y dechnoleg ddadleuol yn cael ei gyflwyno i'r gynghrair!
Blwyddyn ers ei ymddangosiad diwethaf, mae Waynne Phillips yn ôl i ddathlu dyrchafiad Wrecsam i'r Adran Gyntaf efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen - sydd wedi cyfansoddi cân arbennig i nodi'r llwyddiant diweddaraf.
Malcom Allen ac Owain Tudur Jones sy'n talu teyrnged i Jess Fishlock wrth iddi gyrraedd 150 o gapiau dros Gymru. Ac mae'r ddau yn cytuno mai mater o amser ydi hi tan fydd Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i Adran Un.
Wrth i'r tymor ddirwyn i ben, mae'r hogia yn edrych ar obeithion Wrecsam o gael dyrchafiad a phwy fydd ar frig uwchgynghrair Lloegr, tra bod perfformiadau Abertawe a Chaerdydd bron mor anobeithiol â jôcs Malcolm!
Ows a Mal sy’n dadansoddi tor calon Cymru yn erbyn y Pwyliaid ac yn trafod beth aeth o’i le yn ystod yr ymgyrch. Ac hefyd yn ymateb i gyhoeddiad y Gymdeithas bel droed y bydd Page yn parhau yn ei swydd.
Ydi carfan iach yn rhoi cur pen i Page? Ymunwch ag OTJ a Malcs wrth iddyn nhw edrych ymlaen at y gêm dyngedfennol yn erbyn Y Ffindir nos Iau.
Ows a Mal sy’n trafod carfan Cymru ar gyfer gemau ail gyfle Ewro 2024, yn ogystal a’r ras am deitl Uwch Gynghrair Lloegr a darbi de Cymru.
Yr actor Sion Pritchard sy'n trafod ei gefndir pêl-droed a'i gariad at Lerpwl efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac mae gan un o'r ddau ymddiheuriad i'w neud ar ôl torri addewid i Sion bron i 30 mlynedd yn ôl...
Rheolwr newydd merched Cymru Rhian Wilkinson a chwaraewyr ifanc Lerpwl sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac mae'r ddau yn cofio'r teimlad o chwarae eu gemau cyntaf nhw yn fechgyn ifanc.
Yn dilyn cyhoeddiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod £6m yn mynd i gael ei fuddsoddi i wella'r Cymru Premier, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn ystyried sut ddylai'r arian yna gael ei wario. Oes angen mwy o glybiau? Oes angen mwy o glybiau proffesiynol? Oes gobaith i unrhyw glwb gystadlu yn erbyn Y Seintiau Newydd..? Pentwr o gwestiynau, fawr o atebion!
Trafferthion clybiau Cymru, cardiau glas a Dydd San Ffolant sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.
Snwcer, cysgu, record Y Seintiau Newydd a ffeithiau difyr sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac ydi hi'n amser i ddechrau poeni o ddifri am ganlyniadau Abertawe?
Siomedig oedd canlyniadau clybiau Cymru ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr, ond o leiaf rhoddodd Gasnewydd fraw go iawn i Manchester United. Ac ôl sgorio yn erbyn cewri Old Trafford, fydd Will Evans wedi dal sylw rai o glybiau Adran Un neu hyd yn oed y Bencampwriaeth?
Un sydd wedi symud ydi David Brooks, ac mae Owain Tudur Jones yn credu mai Southampton ydi'r lle perffaith i asgellwr Cymru ar hyn o bryd - ac yn darogan pethau mawr ...
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried os ydi rheolwr Caerdydd Erol Bulut wedi cael llond bol o weithio gyda'r perchennog Vincent Tan yn barod. Ac ydi Ivan Toney yn haeddu clod am ei dric slei wrth sgorio cic rydd?
Mae Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones wedi cyffroi'n lan ar ôl i Gasnewydd sicrhau gêm gartref yn erbyn Manchester United ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr. Ac mae'r ddau yn trafod beth maen nhw wedi ei wneud efo'i hen grysau - ac efo pwy ddaru nhw gyfnewid crys ar ddiwedd gêm.
Ymateb Owain Tudur Jones a Malcolm Allen i'r newyddion syfrdanol fod Gemma Grainger wedi gadael ei swydd fel rheolwr Cymru i fynd at Norwy. Ac mae Alun Owens yn ymuno i drafod ei gariad at Wrecsam, yn ogystal â'r adeg gafodd o gyfarfod Franz Beckenbauer ar y Cae Ras.
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried pa effaith fydd Syr Dave Brailsford yn ei gael yn Manchester United wrth i'r brodor o Ddeiniolen baratoi i ymuno gyda'r clwb fel cyfarwyddwr pêl-droed. Mae'r ddau hefyd yn synnu at berfformiadau'r chwaraewr dartiau ifanc Luke Littler, ac yn cofio rhai o sêr ifanc eraill. A pham bod proses Abertawe i benodi rheolwr newydd wedi cymryd mor hir?
Mae 'na naws Nadoligaidd wrth i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen drafod swydd newydd Osian Roberts yn yr Eidal, problemau Abertawe wrth drio penodi rheolwr a chic o'r smotyn anobeithiol Amadou Onana. Mae'r ddau hefyd yn penderfynu pwy sy'n haeddu anrheg Nadolig am serennu dros y flwyddyn..a phwy sydd ddim!
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod problemau rheolwr Manchester United Erik Ten Hag a pha mor beryg ydi cael rhaniadau mewn ystafell newid. Ydi'r amser wedi dod i symud tymor Uwch Gynghrair Cymru i fisoedd yr haf? Mae Ows a Mal yn poeni bod y gynghrair wedi mynd yn "sdêl". A phwy sydd wedi gorfod cael sbectol newydd..?
Current and classic episodes, featuring compelling true-crime mysteries, powerful documentaries and in-depth investigations.
Anna Sale explores the big questions and hard choices that are often left out of polite conversation.
If you've ever wanted to know about champagne, satanism, the Stonewall Uprising, chaos theory, LSD, El Nino, true crime and Rosa Parks, then look no further. Josh and Chuck have you covered.
If you can never get enough true crime... Congratulations, you’ve found your people.
A straightforward look at the day's top news in 20 minutes. Powered by ABC News. Hosted by Brad Mielke.